1 Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod.
2 A hwy a aethant o amgylch yn Jwda, ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda, a phennau-cenedl Israel, ac a ddaethant i Jerwsalem.
3 A'r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â'r brenin yn nhŷ Dduw: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Wele, mab y brenin a deyrnasa, fel y llefarodd yr Arglwydd am feibion Dafydd.
4 Dyma y peth a wnewch chwi; Y drydedd ran ohonoch, yr rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth, o'r offeiriaid ac o'r Lefiaid, fydd yn borthorion i'r trothwyau;
5 A'r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin; a'r drydedd ran wrth borth y sylfaen; a'r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr Arglwydd.