1 Mab saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba.
2 A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad.
3 A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig: ac efe a genhedlodd feibion a merched.
4 Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr Arglwydd.
5 Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i ddinasoedd Jwda, a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw, o flwyddyn i flwyddyn: prysurwch chwithau y peth. Ond ni frysiodd y Lefiaid.
6 A'r brenin a alwodd am Jehoiada, yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda, ac o Jerwsalem, dreth Moses gwas yr Arglwydd, a chynulleidfa Israel, i babell y dystiolaeth?