10 A'r holl dywysogion a'r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i'r gist, nes gorffen ohonynt.
11 A bu, yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, ddyfod o ysgrifennydd y brenin, a swyddog yr archoffeiriad, a thywallt y gist, a'i chymryd hi, a'i dwyn drachefn i'w lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasglasant arian lawer.
12 A'r brenin a Jehoiada a'i rhoddodd i'r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr Arglwydd; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr Arglwydd; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr Arglwydd.
13 Felly y gweithwyr a weithiasant, a'r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun, ac a'i cadarnhasant ef.
14 A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o'r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd, sef llestri y weinidogaeth, a'r morterau, a'r llwyau, a'r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.
15 Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw.
16 A hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda'r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at Dduw a'i dŷ.