7 Canys meibion Athaleia, y wraig ddrygionus honno, a rwygasent dŷ Dduw; a holl gysegredig bethau tŷ yr Arglwydd a roesant hwy i Baalim.
8 Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist, ac a'i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr Arglwydd oddi allan.
9 A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i'r Arglwydd dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch.
10 A'r holl dywysogion a'r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i'r gist, nes gorffen ohonynt.
11 A bu, yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, ddyfod o ysgrifennydd y brenin, a swyddog yr archoffeiriad, a thywallt y gist, a'i chymryd hi, a'i dwyn drachefn i'w lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasglasant arian lawer.
12 A'r brenin a Jehoiada a'i rhoddodd i'r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr Arglwydd; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr Arglwydd; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr Arglwydd.
13 Felly y gweithwyr a weithiasant, a'r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun, ac a'i cadarnhasant ef.