2 Cronicl 25:13-19 BWM

13 A'r rhyfelwyr, y rhai a ddarfuasai i Amaseia eu troi yn ôl rhag myned gydag ef i ryfel, a ruthrasant ar ddinasoedd Jwda, o Samaria hyd Beth-horon, ac a drawsant ohonynt dair mil, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr.

14 Ac wedi dyfod Amaseia o ladd yr Edomiaid, efe a ddug dduwiau meibion Seir, ac a'u gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau, ac a addolodd ger eu bron hwynt, ac a arogldarthodd iddynt.

15 Am hynny y llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Amaseia; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef, yr hwn a ddywedodd wrtho ef, Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o'th law di?

16 A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i'r brenin? paid, i ba beth y'th drewid? A'r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd, Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.

17 Yna Amaseia brenin Jwda a ymgynghorodd, ac a anfonodd at Joas mab Jehoahas mab Jehu brenin Israel, gan ddywedyd, Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd.

18 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i'm mab i yn wraig: a bwystfil y maes, yr hwn oedd yn Libanus, a dramwyodd, ac a sathrodd yr ysgellyn.

19 Dywedaist, Wele, trewaist yr Edomiaid, a'th galon a'th ddyrchafodd i ymffrostio; eistedd yn awr yn dy dŷ; paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?