15 Am hynny y llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Amaseia; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef, yr hwn a ddywedodd wrtho ef, Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o'th law di?
16 A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i'r brenin? paid, i ba beth y'th drewid? A'r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd, Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.
17 Yna Amaseia brenin Jwda a ymgynghorodd, ac a anfonodd at Joas mab Jehoahas mab Jehu brenin Israel, gan ddywedyd, Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd.
18 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i'm mab i yn wraig: a bwystfil y maes, yr hwn oedd yn Libanus, a dramwyodd, ac a sathrodd yr ysgellyn.
19 Dywedaist, Wele, trewaist yr Edomiaid, a'th galon a'th ddyrchafodd i ymffrostio; eistedd yn awr yn dy dŷ; paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?
20 Ond ni wrandawai Amaseia; canys oddi wrth Dduw yr oedd hynny, fel y rhoddid hwynt yn llaw y gelyn, am iddynt geisio duwiau Edom.
21 Felly Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Bethsemes, yr hon oedd yn Jwda.