6 Ac efe a gyflogodd o Israel gan mil o wŷr cedyrn nerthol, er can talent o arian.
7 Ond gŵr Duw a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, O frenin, nac aed llu Israel gyda thi: canys nid yw yr Arglwydd gydag Israel, sef gyda holl feibion Effraim.
8 Ond os myned a fynni, gwna, ymgadarnha i ryfel: ond Duw a wna i ti syrthio o flaen dy elynion; canys y mae gan Dduw nerth i gynorthwyo, ac i gwympo.
9 Ac Amaseia a ddywedodd wrth ŵr Duw, Ond beth a wneir am y can talent a roddais i dorf Israel? A dywedodd gŵr Duw, Y mae ar law yr Arglwydd roddi i ti lawer mwy na hynny.
10 Felly Amaseia a'u neilltuodd hwynt, sef y dorf a ddaethai ato ef o Effraim, i fyned i'w mangre eu hun. A llidiodd eu dicllonedd hwy yn ddirfawr yn erbyn Jwda, a dychwelasant i'w mangre eu hun mewn llid dicllon.
11 Ac Amaseia a ymgadarnhaodd, ac a dywysodd allan ei bobl, ac a aeth i ddyffryn yr halen, ac a drawodd o feibion Seir ddeng mil.
12 Meibion Jwda hefyd a gaethgludasant ddeng mil yn fyw, ac a'u dygasant i ben y graig, ac a'u taflasant hwy o ben y graig, fel y drylliwyd hwynt oll.