28 A'r holl gynulleidfa oedd yn addoli, a'r cantorion yn canu, a'r utgyrn yn lleisio; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm.
29 A phan orffenasant hwy offrymu, y brenin a'r holl rai a gafwyd gydag ef, a ymgrymasant, ac a addolasant.
30 A Heseceia y brenin a'r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr Arglwydd, â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly hwy a folianasant â llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant.
31 A Heseceia a atebodd ac a ddywedodd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i'r Arglwydd; nesewch, a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant, i dŷ yr Arglwydd. A'r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau.
32 A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa, oedd ddeg a thrigain o fustych, cant o hyrddod, dau cant o ŵyn: y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i'r Arglwydd.
33 A'r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych, a thair mil o ddefaid.
34 Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a'u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i'r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgysegru na'r offeiriaid.