10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.
11 Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall.
12 Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall.
13 Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a'u hwynebau tuag i mewn.
14 Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny.
15 Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a'r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd.
16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a'u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a'u rhoddodd ar y cadwynau.