13 Adenydd y ceriwbiaid hyn a ledwyd yn ugain cufydd: ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a'u hwynebau tuag i mewn.
14 Ac efe a wnaeth y wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, ac a weithiodd geriwbiaid ar hynny.
15 Gwnaeth hefyd ddwy golofn o flaen y tŷ, yn bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a'r cnap ar ben pob un ohonynt oedd bum cufydd.
16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a'u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a'u rhoddodd ar y cadwynau.
17 A chyfododd y colofnau o flaen y deml, un o'r tu deau, ac un o'r tu aswy; ac a alwodd enw y ddeau, Jachin; ac enw yr aswy, Boas.