6 Ac efe a addurnodd y tŷ â meini gwerthfawr yn hardd; a'r aur oedd aur Parfaim.
7 Ie, efe a wisgodd y tŷ, y trawstiau, y rhiniogau, a'i barwydydd, a'i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd geriwbiaid ar y parwydydd.
8 Ac efe a wnaeth dŷ y cysegr sancteiddiolaf; ei hyd oedd un hyd â lled y tŷ, yn ugain cufydd, a'i led yn ugain cufydd: ac efe a'i gwisgodd ef ag aur da, sef â chwe chan talent.
9 Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddeg sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wisgodd efe ag aur.
10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cysegr sancteiddiolaf ddau geriwb o waith cywraint, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.
11 Ac adenydd y ceriwbiaid oedd ugain cufydd eu hyd: y naill adain o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r adain arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at adain y ceriwb arall.
12 Ac adain y ceriwb arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r adain arall o bum cufydd, ynghyd ag adain y ceriwb arall.