20 A'r Arglwydd a wrandawodd ar Heseceia, ac a iachaodd y bobl.
21 A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Jerwsalem, a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd a'r offeiriaid oedd yn moliannu yr Arglwydd o ddydd i ddydd, gan ganu ag offer soniarus i'r Arglwydd.
22 A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr Arglwydd; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i Arglwydd Dduw eu tadau.
23 A'r holl gynulleidfa a ymgyngorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill: felly y cynaliasant saith o ddyddiau eraill trwy lawenydd.
24 Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i'r gynulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid: a'r tywysogion a roddasant i'r gynulleidfa fil o fustych, a deng mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant.
25 A holl gynulleidfa Jwda a lawenychasant, gyda'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, a'r dieithriaid a ddaethai o wlad Israel, ac oeddynt yn gwladychu yn Jwda.
26 Felly y bu llawenydd mawr yn Jerwsalem: canys er dyddiau Solomon mab Dafydd brenin Israel ni bu y cyffelyb yn Jerwsalem.