24 Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i'r gynulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid: a'r tywysogion a roddasant i'r gynulleidfa fil o fustych, a deng mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant.
25 A holl gynulleidfa Jwda a lawenychasant, gyda'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, a'r dieithriaid a ddaethai o wlad Israel, ac oeddynt yn gwladychu yn Jwda.
26 Felly y bu llawenydd mawr yn Jerwsalem: canys er dyddiau Solomon mab Dafydd brenin Israel ni bu y cyffelyb yn Jerwsalem.
27 Yna yr offeiriaid a'r Lefiaid a gyfodasant, ac a fendithiasant y bobl; a gwrandawyd ar eu llef hwynt, a'u gweddi hwynt a ddaeth i fyny i'w breswylfa sanctaidd ef, i'r nefoedd.