1 Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a'r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i'w feddiant, i'w dinasoedd.
2 A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a'r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pob un yn ôl ei weinidogaeth, yr offeiriaid a'r Lefiaid i'r poethoffrwm, ac i'r ebyrth hedd, i weini, ac i foliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwersylloedd yr Arglwydd.
3 A rhan y brenin oedd o'i olud ei hun i'r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a'r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a'r newyddloerau, a'r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd.
4 Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, trigolion Jerwsalem, am roddi rhan i'r offeiriaid a'r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr Arglwydd.