13 Jehiel hefyd, ac Asaseia, a Nahath, ac Asahel, a Jerimoth, a Josabad, ac Eliel, ac Ismachia, a Mahath, a Benaia, oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef, trwy orchymyn Heseceia y brenin, ac Asareia blaenor tŷ Dduw.
14 A Chore mab Imna y Lefiad, y porthor tua'r dwyrain, oedd ar y pethau a offrymid yn ewyllysgar i Dduw, i rannu offrymau yr Arglwydd, a'r pethau sancteiddiolaf.
15 Ac wrth ei law ef yr oedd Eden, a Miniamin, a Jesua, a Semaia, Amareia, a Sechaneia, yn ninasoedd yr offeiriaid, yn eu swydd, i roddi i'w brodyr yn ôl eu rhan, i fawr ac i fychan:
16 Heblaw y gwrywiaid o'u cenedl hwynt, o fab tair blwydd ac uchod, i bawb a'r oedd yn dyfod i dŷ yr Arglwydd, ddogn dydd yn ei ddydd, yn eu gwasanaeth hwynt, o fewn eu goruchwyliaethau, yn ôl eu dosbarthiadau;
17 I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau, ac i'r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod, yn ôl eu goruchwyliaethau, yn eu dosbarthiadau;
18 Ac i genedl eu holl blant hwy, eu gwragedd, a'u meibion, a'u merched, trwy'r holl gynulleidfa: oblegid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd:
19 Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas, y gwŷr a enwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid, ac i'r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid.