17 I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau, ac i'r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod, yn ôl eu goruchwyliaethau, yn eu dosbarthiadau;
18 Ac i genedl eu holl blant hwy, eu gwragedd, a'u meibion, a'u merched, trwy'r holl gynulleidfa: oblegid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd:
19 Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas, y gwŷr a enwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid, ac i'r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid.
20 Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn, a'r gwirionedd, gerbron yr Arglwydd ei Dduw.
21 Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd efe yng ngweinidogaeth tŷ Dduw, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei Dduw, efe a'i gwnaeth â'i holl galon, ac a ffynnodd.