3 A rhan y brenin oedd o'i olud ei hun i'r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a'r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a'r newyddloerau, a'r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd.
4 Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, trigolion Jerwsalem, am roddi rhan i'r offeiriaid a'r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr Arglwydd.
5 A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddygasant yn aml, flaenffrwyth yr ŷd, y gwin, a'r olew, a'r mêl, ac o holl gnwd y maes, a'r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth.
6 A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i'r Arglwydd eu Duw, ac a'u gosodasant bob yn bentwr.
7 Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio'r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt.
8 A phan ddaeth Heseceia a'r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr Arglwydd, a'i bobl Israel.
9 A Heseceia a ymofynnodd â'r offeiriaid a'r Lefiaid oherwydd y pentyrrau.