1 Wedi y pethau hyn, a'u sicrhau, y daeth Senacherib brenin Asyria, ac a ddaeth i mewn i Jwda; ac a wersyllodd yn erbyn y dinasoedd caerog, ac a feddyliodd eu hennill hwynt iddo ei hun.
2 A phan welodd Heseceia ddyfod Senacherib, a bod ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Jerwsalem,
3 Efe a ymgynghorodd â'i dywysogion, ac â'i gedyrn, am argae dyfroedd y ffynhonnau, y rhai oedd allan o'r ddinas. A hwy a'i cynorthwyasant ef.
4 Felly pobl lawer a ymgasglasant, ac a argaeasant yr holl ffynhonnau, a'r afon sydd yn rhedeg trwy ganol y wlad, gan ddywedyd, Paham y daw brenhinoedd Asyria, ac y cânt ddyfroedd lawer?
5 Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig, ac a'i cyfododd i fyny hyd y tyrau, a mur arall oddi allan, ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau.
6 Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl, ac a'u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt, gan ddywedyd,
7 Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch; nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria, na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef: canys y mae gyda ni fwy na chydag ef.