15 Yn awr gan hynny na thwylled Heseceia chwi, ac na huded mohonoch fel hyn, ac na choeliwch iddo ef: canys ni allodd duw un genedl na theyrnas achub ei bobl o'm llaw i, nac o law fy nhadau: pa faint llai y gwared eich Duw chwychwi o'm llaw i?
16 A'i weision ef a ddywedasant ychwaneg yn erbyn yr Arglwydd Dduw, ac yn erbyn Heseceia ei was ef.
17 Ac efe a ysgrifennodd lythyrau i gablu Arglwydd Dduw Israel, ac i lefaru yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o'm llaw i, felly nid achub Duw Heseceia ei bobl o'm llaw i.
18 Yna y gwaeddasant hwy â llef uchel, yn iaith yr Iddewon, ar bobl Jerwsalem y rhai oedd ar y mur, i'w hofni hwynt, ac i'w brawychu; fel yr enillent hwy y ddinas.
19 A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad, sef gwaith dwylo dyn.
20 Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin, ac Eseia y proffwyd mab Amos, ac a waeddasant i'r nefoedd.
21 A'r Arglwydd a anfonodd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria. Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i'w wlad ei hun. A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw, y rhai a ddaethant allan o'i ymysgaroedd ei hun a'i lladdasant ef yno â'r cleddyf.