22 Felly y gwaredodd yr Arglwydd Heseceia a thrigolion Jerwsalem o law Senacherib brenin Asyria, ac o law pawb eraill, ac a'u cadwodd hwynt oddi amgylch.
23 A llawer a ddygasant roddion i'r Arglwydd i Jerwsalem, a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda; fel y dyrchafwyd ef o hynny allan yng ngŵydd yr holl genhedloedd.
24 Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw, ac a weddïodd ar yr Arglwydd: yntau a lefarodd wrtho, ac a roddes argoel iddo.
25 Ond ni thalodd Heseceia drachefn yn ôl yr hyn a roddasid iddo; canys ei galon ef a ddyrchafodd: a digofaint a ddaeth arno ef, ac ar Jwda a Jerwsalem.
26 Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrigolion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr Arglwydd arnynt yn nyddiau Heseceia.
27 Ac yr oedd gan Heseceia gyfoeth ac anrhydedd mawr iawn: ac efe a wnaeth iddo drysorau o arian, ac o aur, ac o feini gwerthfawr, o beraroglau hefyd, ac o darianau, ac o bob llestri hyfryd;
28 A selerau i gnwd yr ŷd, a'r gwin, a'r olew; a phresebau i bob math ar anifail, a chorlannau i'r diadellau.