5 Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig, ac a'i cyfododd i fyny hyd y tyrau, a mur arall oddi allan, ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau.
6 Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl, ac a'u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt, gan ddywedyd,
7 Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch; nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria, na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef: canys y mae gyda ni fwy na chydag ef.
8 Gydag ef y mae braich cnawdol; ond yr Arglwydd ein Duw sydd gyda ni, i'n cynorthwyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A'r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda.
9 Wedi hyn yr anfonodd Senacherib brenin Asyria ei weision i Jerwsalem, (ond yr ydoedd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis, a'i holl allu gydag ef,) at Heseceia brenin Jwda, ac at holl Jwda, y rhai oedd yn Jerwsalem, gan ddywedyd,
10 Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Asyria, Ar ba beth yr ydych chwi yn hyderu, chwi y rhai sydd yn aros yng ngwarchae o fewn Jerwsalem?
11 Ond Heseceia sydd yn eich hudo chwi, i'ch rhoddi chwi i farw trwy newyn, a thrwy syched, gan ddywedyd, Yr Arglwydd ein Duw a'n gwared ni o law brenin Asyria.