8 Gydag ef y mae braich cnawdol; ond yr Arglwydd ein Duw sydd gyda ni, i'n cynorthwyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A'r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda.
9 Wedi hyn yr anfonodd Senacherib brenin Asyria ei weision i Jerwsalem, (ond yr ydoedd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis, a'i holl allu gydag ef,) at Heseceia brenin Jwda, ac at holl Jwda, y rhai oedd yn Jerwsalem, gan ddywedyd,
10 Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Asyria, Ar ba beth yr ydych chwi yn hyderu, chwi y rhai sydd yn aros yng ngwarchae o fewn Jerwsalem?
11 Ond Heseceia sydd yn eich hudo chwi, i'ch rhoddi chwi i farw trwy newyn, a thrwy syched, gan ddywedyd, Yr Arglwydd ein Duw a'n gwared ni o law brenin Asyria.
12 Onid yr Heseceia hwnnw a dynnodd ymaith ei uchelfeydd ef, a'i allorau, ac a orchmynnodd i Jwda a Jerwsalem, gan ddywedyd, O flaen un allor yr addolwch, ac ar honno yr aroglderthwch?
13 Oni wyddoch chwi beth a wneuthum, mi a'm tadau, i holl bobl y tiroedd? ai gan allu y gallai duwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlad o'm llaw i?
14 Pwy oedd ymysg holl dduwiau y cenhedloedd hyn, y rhai a ddarfu i'm tadau eu difetha, a allai waredu ei bobl o'm llaw i, fel y gallai eich Duw chwi eich gwaredu chwi o'm llaw i?