1 Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem:
2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd, y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef, ac a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwyni, ac a addolodd holl lu'r nefoedd, ac a'u gwasanaethodd hwynt.
4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd, am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd, Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd.
5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu'r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd.
6 Ac efe a yrrodd ei feibion trwy'r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef.
7 Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ Dduw, am yr hwn y dywedasai Duw wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd.