13 Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a'i dug ef drachefn i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr Arglwydd oedd Dduw.
14 Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du'r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a'i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda.
15 Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr, a'r ddelw, allan o dŷ yr Arglwydd, a'r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr Arglwydd, ac yn Jerwsalem, ac a'u taflodd allan o'r ddinas.
16 Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant; dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu Arglwydd Dduw Israel.
17 Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd: eto i'r Arglwydd eu Duw yn unig.
18 A'r rhan arall o hanes Manasse, a'i weddi ef at ei Dduw, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw Arglwydd Dduw Israel, wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel.
19 Ei weddi ef hefyd, a'r modd y cymododd Duw ag ef, a'i holl bechod ef, a'i gamwedd, a'r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.