18 A'r rhan arall o hanes Manasse, a'i weddi ef at ei Dduw, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw Arglwydd Dduw Israel, wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel.
19 Ei weddi ef hefyd, a'r modd y cymododd Duw ag ef, a'i holl bechod ef, a'i gamwedd, a'r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.
20 Felly Manasse a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn ei dŷ ei hun; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
21 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
22 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel y gwnaethai Manasse ei dad ef: canys Amon a aberthodd i'r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei dad ef, ac a'u gwasanaethodd hwynt.
23 Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr Arglwydd, fel yr ymostyngasai Manasse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy.
24 A'i weision ef a fradfwriadasant i'w erbyn ef, ac a'i lladdasant ef yn ei dŷ ei hun.