8 Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i'ch tadau chwi; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, trwy law Moses.
9 Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na'r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel.
10 Er llefaru o'r Arglwydd wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy.
11 Am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a'i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a'i dygasant ef i Babilon.
12 A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau,
13 Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a'i dug ef drachefn i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr Arglwydd oedd Dduw.
14 Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du'r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a'i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda.