1 Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.
3 Canys yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchelfeydd, a'r llwyni, a'r delwau cerfiedig, a'r delwau toddedig.
4 Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a'r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a'r delwau cerfiedig, a'r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.
5 Ac esgyrn yr offeiriaid a losgodd efe ar eu hallorau, ac a lanhaodd Jwda a Jerwsalem.
6 Felly y gwnaeth efe yn ninasoedd Manasse, ac Effraim, a Simeon, a hyd Nafftali, â'u ceibiau oddi amgylch.
7 A phan ddinistriasai efe yr allorau a'r llwyni, a dryllio ohono y delwau cerfiedig, gan eu malurio yn llwch, a thorri yr eilunod i gyd trwy holl wlad Israel, efe a ddychwelodd i Jerwsalem.