15 A Hilceia a atebodd ac a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd. A Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan:
16 A Saffan a ddug y llyfr at y brenin, ac a ddug air drachefn i'r brenin, gan ddywedyd, Yr hyn oll a roddwyd yn llaw dy weision di, y maent hwy yn ei wneuthur.
17 Casglasant hefyd yr arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a rhoddasant hwynt yn llaw y golygwyr, ac yn llaw y gweithwyr.
18 Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd hefyd i'r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr. A Saffan a ddarllenodd ynddo ef gerbron y brenin.
19 A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.
20 A'r brenin a orchmynnodd i Hilceia, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Abdon mab Micha, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaia gwas y brenin, gan ddywedyd,
21 Ewch, ymofynnwch â'r Arglwydd drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr Arglwydd, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.