17 Casglasant hefyd yr arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a rhoddasant hwynt yn llaw y golygwyr, ac yn llaw y gweithwyr.
18 Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd hefyd i'r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr. A Saffan a ddarllenodd ynddo ef gerbron y brenin.
19 A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.
20 A'r brenin a orchmynnodd i Hilceia, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Abdon mab Micha, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaia gwas y brenin, gan ddywedyd,
21 Ewch, ymofynnwch â'r Arglwydd drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr Arglwydd, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
22 Yna yr aeth Hilceia, a'r rhai a yrrodd y brenin, at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfath, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd; (a hi oedd yn aros yn Jerwsalem yn yr ysgoldy;) ac a ymddiddanasant â hi felly.
23 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i'r gŵr a'ch anfonodd chwi ataf fi,