9 A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad, hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ Dduw, y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau, o law Manasse ac Effraim, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Jwda a Benjamin, a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem.
10 A hwy a'i rhoddasant yn llaw y gweithwyr, y rhai oedd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd: hwythau a'i rhoddasant i wneuthurwyr y gwaith, y rhai oedd yn gweithio yn nhŷ yr Arglwydd, i gyweirio ac i gadarnhau y tŷ.
11 Rhoddasant hefyd i'r seiri ac i'r adeiladwyr, i brynu cerrig nadd, a choed tuag at y cysylltiadau, ac i fyrddio y tai a ddinistriasai brenhinoedd Jwda.
12 A'r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon: ac arnynt hwy yn olygwyr yr oedd Jahath, ac Obadeia, y Lefiaid, o feibion Merari; a Sechareia, a Mesulam, o feibion y Cohathiaid, i'w hannog: ac o'r Lefiaid, pob un a oedd gyfarwydd ar offer cerdd.
13 Yr oeddynt hefyd ar y cludwyr, ac yn olygwyr ar yr holl rai oedd yn gweithio ym mhob rhyw waith: ac o'r Lefiaid yr oedd ysgrifenyddion, a swyddogion, a phorthorion.
14 A phan ddygasant hwy allan yr arian a ddygasid i dŷ yr Arglwydd, Hilceia yr offeiriad a gafodd lyfr cyfraith yr Arglwydd, yr hwn a roddasid trwy law Moses.
15 A Hilceia a atebodd ac a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd. A Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan: