22 Ond ni throai Joseia ei wyneb oddi wrtho ef, eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef, ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw, ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido.
23 A'r saethyddion a saethasant at y brenin Joseia: a'r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch fi ymaith, canys clwyfwyd fi yn dost.
24 Felly ei weision a'i tynasant ef o'r cerbyd, ac a'i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau. A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia.
25 Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia, a'r holl gantorion a'r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw, a hwy a'i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau.
26 A'r rhan arall o hanes Joseia a'i ddaioni ef, yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd,
27 A'i weithredoedd ef, cyntaf a diwethaf, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.