10 Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a'i dug ef i Babilon, gyda llestri dymunol tŷ yr Arglwydd: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
11 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
12 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw, ac nid ymostyngodd efe o flaen Jeremeia y proffwyd, yr hwn oedd yn llefaru o enau yr Arglwydd.
13 Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Nebuchodonosor, yr hwn a wnaethai iddo dyngu i Dduw: ond efe a galedodd ei war, ac a gryfhaodd ei galon, rhag dychwelyd at Arglwydd Dduw Israel.
14 Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd, a'r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra'r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr Arglwydd, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem.
15 Am hynny Arglwydd Dduw eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod.
16 Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd.