14 Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd, a'r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra'r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr Arglwydd, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem.
15 Am hynny Arglwydd Dduw eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod.
16 Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd.
17 Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â'r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na gŵr ieuanc na morwyn, na hen, na'r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a'u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef.
18 Holl lestri tŷ Dduw hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau y brenin a'i dywysogion: y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon.
19 A hwy a losgasant dŷ Dduw, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a'i holl balasau hi a losgasant hwy â than, a'i holl lestri dymunol a ddinistriasant.
20 A'r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i'w feibion, nes teyrnasu o'r Persiaid: