20 A'r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i'w feibion, nes teyrnasu o'r Persiaid:
21 I gyflawni gair yr Arglwydd trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o'r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain.
22 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, fel y cyflawnid gair yr Arglwydd yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia, yr Arglwydd a gyffrôdd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl frenhiniaeth, a hynny mewn ysgrifen, gan ddywedyd,
23 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o'i holl bobl ef? yr Arglwydd ei Dduw fyddo gydag ef, ac eled i fyny.