1 Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr Arglwydd; a Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; ac a osododd yn nhrysorau tŷ Dduw, yr arian, a'r aur, a'r holl lestri.
2 Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau-cenedl meibion Israel, i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno yw Seion.
3 Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis.
4 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a'r Lefiaid a godasant yr arch.
5 A hwy a ddygasant i fyny yr arch, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cysegr, y rhai oedd yn y babell, yr offeiriaid a'r Lefiaid a'u dygasant hwy i fyny.
6 Hefyd y brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a gynullasid ato ef o flaen yr arch, a aberthasant o ddefaid, a gwartheg, fwy nag a ellid eu rhifo na'u cyfrif gan luosowgrwydd.
7 A'r offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i'w lle, i gafell y tŷ, i'r cysegr sancteiddiolaf, hyd dan adenydd y ceriwbiaid.