1 Yna y llefarodd Solomon, Yr Arglwydd a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch;
2 A minnau a adeiledais dŷ yn drigfa i ti, a lle i'th breswylfod yn dragywydd.
3 A'r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel: a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll.
4 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â'i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â'i ddwylo, gan ddywedyd,
5 Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, i fod fy enw ynddo; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel: