20 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua'r tŷ yma ddydd a nos, tua'r lle am yr hwn y dywedaist, y gosodit dy enw yno; i wrando ar y weddi a weddïo dy was di yn y fan hon.
21 Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was, a'th bobl Israel, y rhai a weddïant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o le dy breswylfod, sef o'r nefoedd; a phan glywech, maddau.
22 Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:
23 Yna gwrando di o'r nefoedd; gwna hefyd, a barna dy weision; gan dalu i'r drygionus, trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder.
24 A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn; os dychwelant, a chyfaddef dy enw, a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn:
25 Yna gwrando di o'r nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i'r tir a roddaist iddynt hwy, ac i'w tadau.
26 Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i'th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech hwynt: