6 Ond mi a etholais Jerwsalem, i fod fy enw yno; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.
7 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.
8 Ond dywedodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i'm henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon:
9 Er hynny nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaeth allan o'th lwynau, efe a adeilada y tŷ i'm henw i.
10 Am hynny yr Arglwydd a gwblhaodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.
11 Ac yno y gosodais yr arch; yn yr hon y mae cyfamod yr Arglwydd, yr hwn a amododd efe â meibion Israel.
12 A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo: