Rhufeiniaid 1 BWM

1 Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw,

2 (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,)

3 Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd;

4 Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy'r atgyfodiad oddi wrth y meirw:

5 Trwy'r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd‐dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef:

6 Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist:

7 At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

8 Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i'm Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd.

9 Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau,

10 Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi.

11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y'ch cadarnhaer:

12 A hynny sydd i'm cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau.

13 Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo'm lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill.

14 Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid, ac i'r barbariaid hefyd; i'r doethion, ac i'r annoethion hefyd.

15 Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu'r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain.

16 Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu; i'r Iddew yn gyntaf, a hefyd i'r Groegwr.

17 Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

18 Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o'r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder.

19 Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a'i heglurodd iddynt.

20 Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus:

21 Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd.

22 Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid;

23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid.

24 O ba herwydd Duw hefyd a'u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain:

25 Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.

26 Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i'r hon sydd yn erbyn anian:

27 Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i'w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid.

28 Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a'u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd:

29 Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau;

30 Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni,

31 Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugarogion:

32 Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cydymfodloni â'r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16