Rhufeiniaid 10 BWM

1 O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth.

2 Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth.

3 Canys hwynt‐hwy, heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.

4 Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy'n credu.

5 Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, Mai'r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt.

6 Eithr y mae'r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:)

7 Neu, pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,)

8 Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae'r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu;

9 Mai os cyffesi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi.

10 Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth.

11 Oblegid y mae'r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.

12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a'r sydd yn galw arno.

13 Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.

14 Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr?

15 A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus!

16 Eithr nid ufuddhasant hwy oll i'r efengyl: canys y mae Eseias yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni?

17 Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.

18 Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i'r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd.

19 Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y'ch digiaf chwi.

20 Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf.

21 Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16