1 Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a'm cydwybod hefyd yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân,
2 Fod i mi dristyd mawr, a gofid di‐baid i'm calon.
3 Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd:
4 Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw'r mabwysiad, a'r gogoniant, a'r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a'r gwasanaeth, a'r addewidion;
5 Eiddo y rhai yw'r tadau; ac o'r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
6 Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym: canys nid Israel yw pawb a'r sydd o Israel.
7 Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had.
8 Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had.
9 Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara.
10 Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o'n tad Isaac;
11 (Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i'r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o'r hwn sydd yn galw;)
12 Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha'r ieuangaf.
13 Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais.
14 Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw.
15 Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
16 Felly gan hynny nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau.
17 Canys y mae'r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy'r holl ddaear.
18 Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.
19 Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?
20 Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn?
21 Onid oes awdurdod i'r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o'r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amarch?
22 Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth:
23 Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant,
24 Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o'r Iddewon yn unig, eithr hefyd o'r Cenhedloedd?
25 Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi; a'r hon nid yw annwyl, yn annwyl.
26 A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y gelwir hwy yn feibion i'r Duw byw.
27 Hefyd y mae Eseias yn llefain am yr Israel, Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir.
28 Canys efe a orffen ac a gwtoga'r gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byr waith a wna'r Arglwydd ar y ddaear.
29 Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen, Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had, megis Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra.
30 Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd:
31 Ac Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder.
32 Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd;
33 Megis y mae yn ysgrifenedig, Wele fi yn gosod yn Seion faen tramgwydd, a chraig rhwystr: a phob un a gredo ynddo ni chywilyddir.