18 Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o'r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder.
19 Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a'i heglurodd iddynt.
20 Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus:
21 Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd.
22 Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid;
23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid.
24 O ba herwydd Duw hefyd a'u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain: