9 Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau,
10 Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi.
11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y'ch cadarnhaer:
12 A hynny sydd i'm cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau.
13 Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo'm lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill.
14 Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid, ac i'r barbariaid hefyd; i'r doethion, ac i'r annoethion hefyd.
15 Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu'r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain.