12 Felly gan hynny pob un ohonom drosto'i hun a rydd gyfrif i Dduw.
13 Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i'w frawd, neu rwystr.
14 Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy'r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun: ond i'r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.
15 Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.
16 Na chabler gan hynny eich daioni chwi.
17 Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
18 Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion.