15 Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.
16 Na chabler gan hynny eich daioni chwi.
17 Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
18 Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion.
19 Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a'r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd.
20 O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd.
21 Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy'r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd.