20 O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd.
21 Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy'r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd.
22 A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda.
23 Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.