3 Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a'r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a'i derbyniodd ef.
4 Pwy wyt ti, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio: ac efe a gynhelir; canys fe a all Duw ei gynnal ef.
5 Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun.
6 Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a'r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta; i'r Arglwydd y mae yn bwyta; canys y mae yn diolch i Dduw: a'r hwn sydd heb fwyta, i'r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw.
7 Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo'i hun, ac nid yw'r un yn marw iddo'i hun.
8 Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.
9 Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a'r byw hefyd.