9 Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a'r byw hefyd.
10 Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist.
11 Canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd; pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw.
12 Felly gan hynny pob un ohonom drosto'i hun a rydd gyfrif i Dduw.
13 Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i'w frawd, neu rwystr.
14 Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy'r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun: ond i'r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.
15 Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.