22 Am hynny hefyd y'm lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi.
23 Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi;
24 Pan elwyf i'r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch.
25 Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i'r saint.
26 Canys rhyngodd bodd i'r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i'r rhai tlodion o'r saint sydd yn Jerwsalem.
27 Canys rhyngodd bodd iddynt; a'u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u pethau ysbrydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol.
28 Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i'r Hispaen.