12 Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd.
13 Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minnau.
14 Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a'r brodyr sydd gyda hwynt.
15 Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a'i chwaer, ac Olympas, a'r holl saint y rhai sydd gyda hwynt.
16 Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch.
17 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt.
18 Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau'r rhai diddrwg.